Cynnwys yr Arolwg
Diolch am eich diddordeb mewn cymryd rhan yn Arolwg Cyfranogiad Cyhoeddus DSIT. Rydym yn ddiolchgar i chi am gymryd rhan, gan y bydd yn ein helpu ni i ddeall cyfranogiad y cyhoedd ar y rhyngrwyd, technoleg ddigidol a gwasanaethau ar-lein y llywodraeth, yn ogystal â safbwyntiau ar wyddoniaeth a deallusrwydd artiffisial (AI).
Gofynnir cwestiynau i chi am y canlynol:
- Eich gwybodaeth ddemograffig
- Defnyddio'r rhyngrwyd a sgiliau digidol
- Defnyddio'r rhyngrwyd a sgiliau digidol
- Defnyddio gwasanaethau digidol y llywodraeth
- Agweddau tuag at wyddoniaeth, technoleg a data
- Mabwysiadu ac agweddau tuag at Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)
Bydd cwestiynau am y pynciau hyn yn casglu gwybodaeth am ba mor aml rydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd, y mathau o bethau rydych chi’n gyffyrddus yn defnyddio’r rhyngrwyd ar eu cyfer a’ch defnydd chi o wasanaethau digidol y llywodraeth. Bydd hefyd yn helpu DSIT i ddeall cysylltiad y cyhoedd â gwyddoniaeth, ymddiriedaeth mewn gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg ac ymgysylltiad â thechnoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI).
Bydd yr adran demograffeg yn cynnwys cwestiynau amdanoch chi, megis eich oedran, eich ethnigrwydd, eich addysg, a’ch hanes cyflogaeth, yn ogystal â phynciau cysylltiedig eraill megis gwaith neu astudio sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth. Nod y cwestiynau hyn yw sicrhau bod barn pawb yn cael ei chasglu.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Nid oes angen i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych chi am eu hateb.
Am ragor o wybodaeth am Arolwg Cyfranogiad Cyhoeddus DSIT, ewch i https://www.gov.uk/government/collections/dsit-public-engagement-survey.