Cymorth

Diolch am eich diddordeb mewn cymryd rhan yn Arolwg Cyfranogiad Cyhoeddus DSIT. Rydym yn ddiolchgar am eich cyfranogiad, a fydd yn ein helpu ni i ddeall sut mae’r cyhoedd yn defnyddio technoleg ac yn ymgysylltu â gwyddoniaeth.

I rai cyfranogwyr, gall cwestiynau’r arolwg godi materion sy’n anghyffyrddus neu’n achosi trallod. Os bydd unrhyw rai o’r pynciau sydd wedi’u cynnwys yn peri trallod i chi, rydym am sicrhau bod gennych chi fanylion cyswllt sefydliadau gallwch chi siarad â nhw os bydd angen a phwy sy’n gallu eich helpu.

Isod mae rhestr o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi:


Cymorth personol ac emosiynol

Gall y sefydliadau isod eich darparu â chymorth personol ac emosiynol:

Age UK – cymorth a chyngor i bobl hŷn.
Llinell gymorth: 0800 678 1602 (bob dydd, 8am tan 7pm)
Gwefan: https://www.ageuk.org.uk/services


Better Health: Every Mind Matters (NHS) – gwybodaeth a chymorth wrth ymdrin ag unigrwydd.
Gwefan: https://www.nhs.uk/every-mind-matters/lifes-challenges/loneliness/


Y Groes Goch Brydeinig – amrywiaeth o adnoddau a llinell gymorth bwrpasol os ydych chi’n teimlo’n unig neu’n bryderus.
Llinell gymorth: 0808 196 3651 (10am – 6pm, bob dydd)
Gwefan: https://www.redcross.org.uk/get-help


Campaign Against Living Miserably – cymorth gydag amrywiaeth o faterion i unrhyw un sydd mewn angen.
Llinell gymorth: 0800 58 58 58 (5pm – canol nos, bob dydd)
Gwefan: https://www.thecalmzone.net/help/get-help/


Cruse – elusen profedigaeth genedlaethol sy’n helpu pobl sy’n profi galar.
Llinell gymorth: 0808 808 1677 (Dydd Llun a dydd Gwener 9am-5pm, Dydd Mawrth i ddydd Iau 9am-8pm)
Gwefan: https://www.cruse.org.uk/


Independent Age (i bobl hŷn) – gwasanaethau ymgyfeillio.
Llinell gymorth: 0800 319 6789
Gwefan: https://www.independentage.org/


Mind – elusen iechyd meddwl â chyfoeth o wybodaeth am gyflyrau a gwasanaethau iechyd meddwl.
Llinell wybodaeth: 0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am-6pm)
Gwefan (Mind - cenedlaethol): https://www.mind.org.uk/
Gwefan (i ddod o hyd i’r gangen Mind leol): https://www.mind.org.uk/information-support/local-minds


Re-engage - darparu cysylltiadau cymdeithasol i bobl hŷn.
Gwefan: https://www.reengage.org.uk/


Y Samariaid – cymorth emosiynol cyfrinachol ac am ddim os bydd angen siarad arnoch.
Llinell gymorth: 116 223 (24 awr)
E-bost: jo@samaritans.org
Gwefan: https://www.samaritans.org/


Scope – gwybodaeth ddiduedd, annibynnol ac am ddim a chymorth i bobl â nam corfforol, anabledd dysgu neu unrhyw gyflwr arall.
Llinell gymorth: 0808 800 3333
Gwefan: https://www.scope.org.uk


The Silver Line – llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy’n cynnig gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn.
Llinell gymorth: 0800 4 70 80 90 (24 awr)
Gwefan: https://www.thesilverline.org.uk/


SupportLine – cymorth emosiynol cyfrinachol i bobl sydd wedi’u hynysu neu sydd mewn perygl.
Llinell gymorth: 01708 765200
E-bost: info@supportline.org.uk
Gwefan: https://www.supportline.org.uk/




Cymorth ariannol

Gall y sefydliadau canlynol gynnig gwybodaeth i chi am faterion ariannol:

Cyngor ar Bopeth – cyngor ar ddyled, budd-daliadau, cyflogaeth, tai, gwahaniaethu.
Ffôn: 03444 111 444
Gwefan: https://www.citizensadvice.org.uk/


Shelter – gwybodaeth, cymorth a chyngor am ddim i bobl sy’n wynebu digartrefedd neu sy’n cael problemau llety.
Llinell gymorth: 0808 800 4444
Gwefan: https://england.shelter.org.uk/get_help


The Trussell Trust – rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd sy’n cynnig bwyd a chymorth mewn argyfwng.
Ffôn: 01722 580 180
Gwefan: https://www.trusselltrust.org/get-help/


Llinell gymorth Credyd Cynhwysol – cyngor ar Gredyd Cynhwysol.
Llinell gymorth: 0800 328 5644
Gwefan: https://www.gov.uk/universal-credit/contact-universal-credit




Adnoddau eraill

I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adnoddau canlynol:

The Campaign to End Loneliness – yn rhannu ymchwil, tystiolaeth a gwybodaeth.
Gwefan: https://www.campaigntoendloneliness.org/


Every Mind Matters – yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau i bobl sy’n profi unigrwydd.
Gwefan: https://www.nhs.uk/every-mind-matters/lifes-challenges/loneliness


The Marmalade Trust – yn ymroddedig i gynyddu ymwybyddiaeth o unigrwydd a helpu pobl i wneud ffrindiau newydd.
Gwefan: https://www.marmaladetrust.org/