Cwestiynau Cyffredin
Ar y dudalen hon:
- Ynglŷn â'r arolwg
- Cymryd Rhan
- Sut ydw i’n cwblhau'r arolwg?
- Cyfrinachedd a diogelwch data
- Cysylltwch â ni
Ynglŷn â'r arolwg
Pam mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal?
Mae Arolwg Cyfranogiad Cyhoeddus DSIT wedi’i gynllunio i gasglu gwybodaeth am sut mae’r cyhoedd yn defnyddio technoleg a’u hagweddau tuag at wyddoniaeth.
Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu DSIT i ddeall sut mae pobl yn defnyddio, neu’n profi, gwyddoniaeth a thechnoleg yn eu bywydau beunyddiol.
Pwy sy'n cynnal yr arolwg?
Mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Verian - asiantaeth annibynnol - ar ran yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT).
I ddysgu rhagor am Verian, ewch i www.veriangroup.com.
Mae rhagor o wybodaeth am yr arolwg ar gael yma.
Beth yw rôl yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT)?
DSIT yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am hyrwyddo a chefnogi gwyddoniaeth, yn ogystal â sicrhau bod technolegau newydd a phresennol yn cael eu datblygu a’u defnyddio’n ddiogel ledled y DU.
Cymryd Rhan
Pam wnaethon ni ddewis eich cyfeiriad?
Gan nad oes modd gofyn i bawb gymryd rhan yn yr arolwg, rydym yn dewis rhestr o gyfeiriadau ar hap i gynrychioli’r wlad gyfan. Dewiswyd eich cyfeiriad ar hap o restr o gyfeiriadau preifat a gedwir gan y Post Brenhinol.
Dydw i ddim yn meddwl bod yr arolwg hwn yn berthnasol i mi
Mae barn a phrofiad pawb yn werthfawr, hyd yn oed os yw eich defnydd o dechnoleg yn brin neu os byddwch yn meddwl bod eich barn yn amherthnasol. Mae'n bwysig bod y canlyniadau'n cynrychioli pawb yn y DU.
Byddai’n well gen i gymryd rhan drwy ddull all-lein
Os byddai’n well gennych gwblhau’r arolwg drwy ddull all-lein, gallwch ofyn am fersiwn bapur o’r holiadur drwy’r ddolen hon neu'r manylion cyswllt isod.
Ffoniwch linell gymorth yr arolwg ar 0800 008 3256
Neu e-bostiwch Verian yn PESurvey@veriangroup.com
Pwy y dylwn i gysylltu â nhw os nad ydw i eisiau cymryd rhan?
Mae cymryd rhan yn wirfoddol, ond gobeithiwn y gwnewch gan y bydd yn rhoi’r darlun gorau posib i ni o sut mae pobl wahanol yn y DU yn defnyddio technoleg.
Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth, er efallai y byddwch yn dal i dderbyn hyd at dri nodyn atgoffa gennym ni, y gallwch eu hanwybyddu hefyd.
Os nad ydych yn dymuno derbyn llythyrau atgoffa pellach:
Gallwch gofrestru i optio allan yma: cysylltu.
Ffoniwch linell gymorth yr arolwg ar 0800 008 3256
Neu e-bostiwch Verian yn PESurvey@veriangroup.com
Byddwch yn barod i roi eich cyfeirnod, eich cyfeiriad a’ch cod post fel y gallwn eich eithrio o unrhyw gyfathrebu pellach. Mae'r cyfeirnod ar frig y llythyr hwn.
Sut ydw i’n cwblhau'r arolwg?
Beth sydd angen i fi ei wneud?
Gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn y llythyr a gawsoch.
Yn syml, ewch i'r wefan hon a rhowch un o'r IDs defnyddwyr a chyfrineiriau cysylltiedig a ddarparwyd a chwblhewch yr holiadur erbyn y dyddiad ar flaen y llythyr. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Dim ond pobl sy'n byw yn eich aelwyd sy'n cael cymryd rhan.
Os byddai’n well gennych gwblhau’r arolwg drwy ddull all-lein, gweler y cyfarwyddiadau yn y paragraff uchod.
Beth fyddwch chi'n gofyn i mi?
Mae'r arolwg yn cynnwys amrywiaeth o bynciau am eich profiadau o dechnoleg a’r byd digidol, gan gynnwys cwestiynau am:
- Defnyddio'r rhyngrwyd a sgiliau digidol
- Band eang a defnyddio data symudol
- Defnyddio gwasanaethau digidol y llywodraeth
- Agweddau tuag at wyddoniaeth, technoleg a data
- Mabwysiadu ac agweddau tuag at Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)
Am ragor o wybodaeth am gynnwys yr arolwg, cliciwch yma.
Oes rhaid i mi ateb bob cwestiwn?
Mae ateb y cwestiynau yn wirfoddol. Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau amdanoch chi megis eich oedran, eich ethnigrwydd, eich hanes cyflogaeth, ac ati. Rydym yn gofyn y math hwn o gwestiwn fel y gallwn sicrhau y cesglir barn pawb. Fodd bynnag, os nad ydych yn dymuno ateb y mathau hyn o gwestiynau yna gallwch ddewis 'gwell gennyf beidio ag ateb' i symud i'r cwestiwn nesaf.
A allaf helpu rhywun i lenwi'r arolwg?
Gallwch, mae hynny'n iawn. Os oes angen eich help ar ffrind neu berthynas i lenwi’r holiadur, gallwch gynnig help. Ond dylai'r atebion fod yn ymwneud â'u profiad nhw yn unig.
Sut alla i hawlio fy nhaleb?
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r arolwg byddwch yn cael eich cyfeirio at ein gwefan talebau, lle gallwch ddewis o blith ystod o wahanol dalebau siopa.
Ar gyfer cyfarwyddiadau manwl, gweler ein tudalen anogaeth.
Os byddwch yn cwblhau’r arolwg gan ddefnyddio holiadur papur, byddwn yn anfon taleb atoch drwy’r post unwaith y byddwn wedi derbyn yr holiadur cyflawn.
Cyfrinachedd a diogelwch data
Ydy'r arolwg hwn yn gyfrinachol?
Ydy, dim ond at ddibenion ymchwil ac ystadegol y bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw ar wahân i'ch atebion ac ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i unrhyw sefydliad y tu allan i Verian neu sefydliadau cyflenwi sy'n cynorthwyo i gynnal yr arolwg.
Diogelu Data
Mae cymryd rhan yn wirfoddol a bydd unrhyw wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei defnyddio gyda’ch caniatâd chi yn unig. Bydd eich atebion yn cael eu prosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn cadw’ch data’n ddiogel, cliciwch yma.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael unrhyw fanylion pellach am yr arolwg neu os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gwblhau'r arolwg, gallwch anfon e-bost atom yn PESurvey@veriangroup.com neu ffonio ein tîm llinell gymorth pwrpasol ar 0800 008 3256. Sicrhewch fod eich cyfeirnod wrth law.