Datganiad Hygyrchedd

Mae cwmpas y datganiad hwn yn cynnwys gwefan Arolwg Cyfranogiad DSIT www.pesurvey.co.uk a rhyngwyneb yr arolwg, sef yr offeryn a ddefnyddir i gwblhau’r arolwg.

Ar y dudalen hon:


Trosolwg

Rhedir y wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn gan Verian. Rydym eisiau cynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon a chwblhau’r arolwg.

Y tu hwnt i gydymffurfiaeth, mae sicrhau bod ein holiadur ar-lein yn hygyrch i bob defnyddiwr yn parhau i fod yn egwyddor sylfaenol i Verian. Mae'r ymrwymiad hwn yn llywio ein hymdrechion parhaus i wella profiad y defnyddiwr i bawb sy'n cael ei wahodd i gymryd rhan mewn un o'n harolygon. Rydym wedi cynllunio’n gwefan a rhyngwyneb arolwg gyda hygyrchedd mewn golwg, gan ystyried arfer gorau canllawiau hygyrchedd gwe i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn gallu cymryd rhan.

Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at ein harolygon ac yn cynnal archwiliadau hygyrchedd rheolaidd o'n sgriniau arolwg a'n tudalennau mewngofnodi. Cafodd ein sgriniau arolwg safonol eu hachredu ym mis Mehefin 2025 fel rhai sy'n cydymffurfio â WCAG2.2AA.

Verian Group: Achrediad Sgriniau Arolwg | Digital Accessibility Centre

Lle mae Arolwg Cyfranogiad Cyhoeddus DSIT yn gwyro oddi wrth sgriniau arolwg safonol, manylir isod ar faterion hysbys sy'n ymwneud â hygyrchedd.

yn ôl i’r brig


Nodweddion hygyrchedd rhyngwyneb yr arolwg

Mae rhyngwyneb ein harolwg yn cynnwys y nodweddion hygyrchedd canlynol. Mae pob un o'r nodweddion canlynol yn bodloni gofynion cydymffurfiaeth WCAG2.2A ac AA.

Fformat cyffredinol cwestiynau

  • Geiriad pob cwestiwn yn ymddangos mewn testun du neu las plaen (#4051bc)
  • Defnyddio testun du trwm i bwysleisio
  • Osgoi defnyddio italig neu danlinellu
  • Testun y cyfarwyddiadau yr un maint â geiriad y cwestiynau
  • Dewisiadau ymateb wedi'u gosod fel bod cyfranogwyr yn gallu clicio neu dapio unrhyw le yn y blwch ateb neu ar y geiriad ac nid i ochr dde'r opsiwn.
  • Cwestiynau sengl, aml, testun agored, graddfa a modd grid hygyrch

Botymau Nesaf ac Yn ôl

  • Botymau Nesaf ac Yn ôl yn yr un safle ar bob sgrin (canol) gyda thestun ‘YN ÔL’ a ‘NESAF’ wedi'i gynnwys yn y botwm.
  • Thema las safonol #4051bc i'w defnyddio y tu mewn i'r botwm NESAF gyda'r gair mewn gwyn. A dylai'r botwm YN ÔL fod ar gefndir llwyd gyda'r gair mewn glas.

Ardaloedd ein rhyngwyneb arolwg nad ydynt yn gwbl hygyrch

  1. Nid yw'r arolwg hwn yn cynnwys teitlau tudalennau unigryw ar bob sgrin. Mae hyn yn golygu y bydd darllenydd sgrin yn ailadrodd enw'r un teitl tudalen 'Arolwg Cyfranogiad y Cyhoedd DSIT' ar ddechrau pob sgrin.
  2. Nid yw unrhyw faneri gwall sy'n ymddangos wrth ateb cwestiwn yn bodloni safonau WCAG 2.2 AA, gan nad ydynt yn cael eu darllen allan gan ddarllenydd sgrin ac felly nid yw'r wybodaeth ar gael i unrhyw un sy'n defnyddio'r math hwn o feddalwedd. Rydym yn gweithio ar ddatrysiad i drwsio hyn.

Nodweddion hygyrchedd y wefan hon

Mae nodweddion y wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn sy’n helpu hygyrchedd yn cynnwys y gallu i:

  • Newid lefelau cyferbynnedd, lliwiau a ffontiau ar rai porwyr.
  • Chwyddo hyd at 300% gyda thestun yn aros yn weladwy ar y sgrîn, a’r rhan fwyaf o ddelweddau yn cael eu graddio heb golli eglurder.
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan a’r arolwg gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan a'r arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrîn.

Cafodd y cynnwys ar y wefan hon, a drwy’r rhyngwyneb arolwg, ei ysgrifennu a’i strwythuro gan ddefnyddio iaith hygyrch lle bo hynny’n bosibl.

yn ôl i’r brig


Sut i ddefnyddio nodweddion hygyrchedd y wefan

Gellir dod o hyd i fanylion am sut y gellir addasu'r wefan a’r rhyngwyneb arolwg i ddiwallu anghenion hygyrchedd isod.

Newid y lliwiau a’r arddull a ddefnyddir

Mae’n bosib y bydd hyn yn ddefnyddiol i chi os oes gennych olwg isel a bod angen lliwiau cyferbynnedd uchel arnoch.

  • Yn Microsoft Edge, cliciwch y ddewislen 'Settings' a dewiswch y botwm 'Accessibility'. Gallwch ddewis i anwybyddu fformatio tudalen. Ewch yn ôl i'r tab ‘General’ i wneud eich dewisiadau gan ddefnyddio’r botwm ‘Ymddangosiad’.
  • Yn Firefox, cliciwch y botwm ‘Menu’ a dewiswch ‘Settings’. O dan yr adran ‘Iaith ac Ymddangosiad’ dewiswch y botwm ‘Manage Colours’. Bydd hyn yn agor ffenest lle y gallwch chi wneud eich dewisiadau. Dewiswch ‘Always’ yn y gwymplen ‘Override the colours specified by the page with my selections above’. Cliciwch 'OK' i ddychwelyd i Firefox.
  • Yn Google Chrome a Safari, does dim dewis ar hyn o bryd i newid lliwiau testun a chefndir. I ddod o hyd i estyniadau hygyrchedd ar gyfer Chrome, ewch i’r Chrome Web Store a chwiliwch am 'accessibility'.

Fel arall, gallwch chi newid y gosodiadau yn eich system weithredu fel bod y lliwiau a ddewiswyd gennych yn ymddangos bob tro yr ydych chi’n defnyddio eich cyfrifiadur. Mae cyfarwyddiadau’n wahanol yn dibynnu ar eich system weithredu a gellir dod o hyd iddynt ar y wefan My Computer My Way.

Cynyddu maint y ffont

Gallwch chwyddo i gynyddu maint y ffont drwy addasu gosodiadau eich porwr. Mae’n bosib y bydd hyn yn ddefnyddiol os oes gennych chi olwg isel.

  • Gan ddefnyddio eich bysellfwrdd, daliwch y botwm Ctrl i lawr a phwyswch y fysell = i chwyddo, pwyswch y fysell – (minws) i bellhau, neu dychwelwch i’r maint safonol drwy bwyso’r fysell 0 (sero).
  • Os oes gennych lygoden olwyn, gallwch chwyddo drwy bwyso Ctrl a symud yr olwyn ar eich llygoden ar yr un pryd.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol, fel llechi a ffonau clyfar, yn defnyddio ‘ystumiau’ sgrin gyffwrdd fel ‘gwasgu a chwyddo’ i newid maint y dudalen. Mae’n bosib y bydd tapio’r dangosydd ddwywaith hefyd yn cael yr un effaith.

Sut i lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Mae’n bosib llywio gwefan yr arolwg gan ddefnyddio eich bysellfwrdd.

  • Defnyddiwch eich bysellau saeth i sgrolio i fyny neu i lawr y dudalen.
  • Gallwch ddefnyddio eich bysell Tab i symud rhwng dolenni, a phwyso Return neu Enter i ddewis un.

Mae hefyd yn bosib llywio rhyngwyneb yr arolwg trwy ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig, mewn ffordd ychydig yn wahanol.

  • Defnyddiwch y saethau i lywio trwy opsiynau ymateb ar gwestiynau lle gallwch ddewis un ateb yn unig.
  • Defnyddiwch y fysell tab i lywio trwy’r opsiynau ymateb ar gyfer pob cwestiwn arall.
  • Defnyddiwch y fysell tab i symud o opsiynau ymateb i’r botymau ymlaen ac yn ôl sy’n cael eu defnyddio i symud rhwng cwestiynau.
  • Gallwch ddefnyddio’r bysellau Enter neu Return i ddewis opsiwn ymateb, neu ddewis y botymau ymlaen ac yn ôl.

Cydnawsedd darllenydd sgrîn

Mae’n bosib llywio gwefan a rhyngwyneb yr arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrîn. Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur Windows neu Apple, mae’n bosib bod eich system weithredu hefyd yn cynnwys offer darllenydd sgrîn. Mae meddalwedd darllenydd sgrîn eraill ar gael, ac mae rhai ohonynt am ddim i’w defnyddio. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar wefan RNIB Supporting people with sight loss.

yn ôl i’r brig


Adrodd am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod.

E-bost: pesurvey@veriangroup.com

Rhif ffôn: 0800 008 3256

I’n helpu i ddeall eich anhawster yn gyflym, cyfeiriwch at ‘hygyrchedd’ yn eich cais. Croesawir pob darn o adborth adeiladol am hygyrchedd neu ddefnyddioldeb a bydd yn cael ei ystyried yn ofalus.

Os oes angen copi papur o'r holiadur arnoch, neu unrhyw fformat arall, cysylltwch â ni.

yn ôl i’r brig