Anogaeth

Ar y dudalen hon:

I ddiolch i chi am gymryd rhan, byddwch yn derbyn taleb rhodd gwerth £10 y gellir ei defnyddio mewn amrywiaeth o siopau..


Sut i hawlio eich taleb pan fyddwch chi’n cwblhau’r arolwg ar-lein

Ar ôl cwblhau’r arolwg ar-lein, cewch eich tywys i’r wefan talebau a rhoddir cyfarwyddiadau i chi am sut i hawlio eich taleb £10. Darperir y talebau rhodd gan Merit Incentives.

Dilynwch y camau syml hyn:

  1. Cod taleb: Ar ddiwedd yr arolwg, byddwch yn derbyn cyfeirnod taleb unigryw ynghyd â chyfarwyddiadau am sut i hawlio eich taleb. Os byddwch chi wedi darparu cyfeiriad e-bost, caiff yr wybodaeth hon ei hanfon atoch o fewn 48 awr. Gwiriwch eich ffolder sothach os na fydd yr e-bost yn ymddangos yn eich mewnflwch o fewn yr amserlen hon.
  2. Gwell gennych beidio â rhoi eich cyfeiriad e-bost: Os yw’n well gennych beidio â rhoi eich e-bost, nodwch god eich taleb a chyfeiriad gwefan Merit ar gyfer y dyfodol.
  3. Dewis eich taleb:: Pan fydd gennych chi god eich taleb, ewch i wefan Merit Incentives a nodi cod eich taleb i gyrchu’r safle (bydd hyn wedi’i lenwi os ydych chi’n defnyddio'r ddolen unigryw a ddarparwyd ar ddiwedd yr arolwg ac yn yr e-bost). Gallwch ddewis y daleb sy’n well gennych chi o’r rhestr.
  4. Darparu eich cyfeiriad e-bost: Bydd gofyn i chi ddarparu cyfeiriad e-bost fel y gellir anfon y daleb atoch. Pan fyddwch chi wedi nodi eich cyfeiriad e-bost, cliciwch “adbrynu nawr” a chadarnhau ar y sgrin nesaf.
  5. Derbyn eich taleb: Pan fyddwch chi wedi adbrynu'r daleb caiff ei hanfon atoch drwy e-bost. Os na fydd yn ymddangos yn eich mewnflwch o fewn 72 awr, gwiriwch eich ffolder sbam/sothach. Pan fyddwch wedi cyfnewid eich taleb, bydd eich balans yn dangos fel £0. Ewch i dudalen “Fy Waled” i weld y daleb a ddewiswyd gennych.

Os byddwch chi’n cael unrhyw broblemau yn adbrynu eich taleb ar-lein, rhowch gynnig ar ddefnyddio porwr gwahanol.

Os bydd y broblem yn parhau, e-bostiwch ni yn PESurvey@veriangroup.com neu ffoniwch ni ar 0800 008 3256.


Rhestr o dalebau ar gyfer cyfranogwyr ar-lein

Gall cyfranogwyr ar-lein ddewis taleb rhodd o un o’r canlynol neu wneud rhodd i Cancer Research UK:

  • Amazon
  • ASOS
  • Apple
  • Love2shop
  • Marks and Spencer
  • Cancer Research UK
  • Google Play
  • Sainsbury's
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Primark
  • Asda

Sut i hawlio eich taleb os na allwch hawlio ar-lein

Os ydych chi’n cael problemau yn hawlio eich taleb ar-lein, rhowch gynnig ar ddefnyddio porwr gwahanol. Os bydd y broblem yn parhau, e-bostiwch ni yn PESurvey@veriangroup.com neu ffoniwch ni ar 0800 008 3256. Gallwn helpu i gefnogi eich hawliad o anogaeth ar-lein, neu drefnu i’w hanfon atoch drwy'r post.


Sut i hawlio eich taleb os na allwch hawlio ar-lein

Os byddwch yn cwblhau'r arolwg ar bapur…

  1. Byddwch yn derbyn taleb Love2shop drwy’r post o fewn 21 diwrnod gwaith o dderbyn eich arolwg
  2. Gellir ei gwario mewn sawl bwyty neu gyda sawl manwerthwr
  3. Am ragor o wybodaeth ynghylch ble gallwch wario eich taleb, ewch i: https://www.highstreetvouchers.com/gift/where-to-spend-love2shop-vouchers